Cartref > Ysgol > Gwybodaeth

Gwybodaeth


Amcanion yr ysgol


  • Ymdrechwn i helpu’r plant i ddatblygu meddyliau bywiog ac ymholgar, gan roi cyfleoedd iddynt drafod a chwestiynu, a chyflwyno iddynt gwricwlwm eang a diddorol.
  • Ceisiwn ddatblygu parch at safonau moesol a chrefyddol a cheisiwn ddatblygu goddefgarwch tuag at bobloedd a chrefyddau a dulliau eraill o fyw.
  • Ceisiwn ddatblygu y sgiliau o gyd-fyw o fewn cymdeithas dosbarth, yr ysgol a chymdeithas yn gyffredinol gan bwysleisio y cyd-dderbyniaeth sydd rhwng unigolion, grwpiau a chenhedloedd.
  • Ceisiwn ddatblygu’r plant yn y ddwy iaith, sef Cymraeg a Saesneg, fel y gallant fwynhau a pharchu’r ddwy iaith a’u defnyddio yn effeithiol a chyda dychymyg.
  • Ceisiwn gyflwyno sylfeini cadarn ym mhob agwedd o’r Cwricwlwm ac i ddatblygu’r sgiliau angenrheidiol i ddefnyddio’r wybodaeth yma yn y byd sydd ohoni heddiw er mwyn i’r plant ddeall sut y cynhelir ein safonau byw.
  • Ceisiwn ddatblygu gwybodaeth, parch a chariad tuag at y celfyddydau a rhoi siawns i blant fynegi eu teimladau’n greadigol.
  • Ceisiwn ddysgu’r plant am orchestion a dyheadau dynol ym myd celfyddyd, gwyddoniaeth a chrefydd.
  • Ceisiwn roi siawns i bob plentyn, beth bynnag fo’i allu, i chwarae rhan lawn ym mywyd yr ysgol. Hefyd, ceisiwn sicrhau fod pob plentyn yn cael y siawns i ymestyn ei hun yn ei sgiliau arbennig bo hynny’n academig, yn gorfforol neu’n gymdeithasol.

Cyswllt gyda'r ysgoL


Cyfieithiad dod yn fuan...

We believe the school can not exist as a unit on its own and that we should contribute to the community in which we exist. We take firm steps towards this by encouraging pupils to distribute gifts from the thanksgiving service to the elderly, participate in the Community Carol Service, sponsoring local charities, inviting members of the community to school activities and encourage local use of school facilities. We make an effort to raise money for various charities. Regular visits are arranged to local companies to enrich the children’s curriculum, and we receive and accept many invitations to entertain members of the community.

Open evenings are organized three times a year - the first at the start of the Academic Year, the second half way through the year and then at the end of the year. During the first of these the parents have the opportunity to meet the teachers to have a general conversation about the class' work program for the year. In the other two open evenings the parents have, if they wish, a specified time to look at their children's work and discuss this fully with the class teacher. If, however, concerns arise at any time and on any aspect of school life, please contact us immediately, so that arrangements can be made to have a chat. 
A summary of the term's work is given at the beginning of each theme, and a report of progress during the term, which sets out the next targets.

We now have a free app which is very important when sharing information with parents. Go to the app store and download "Our School's app." Then, enter the school's postcode (LL16 3DP), look down the list for Ysgol Twm o'r Nant. In this app, we share important events of the year, information about events, information about the Urdd and policies. Units also share information using the Seesaw app and emails.

We have a successful School Council which is a good influence on the pupils and ensures we listen to pupils voice. The classes from Reception to Year 6 are represented on the Council by two representatives. 
They will hold a meeting every half term.

There are many occasions when parents and friends are invited to concerts and special services, and their support is greatly appreciated, especially by the children.

Trefniadau Ysgol


Mae’r safle wedi ei lleoli ar Ffordd Rhyl, Dinbych. ‘Rydym yn rhannu’r safle gydag Ysgol Frongoch ac Ysgol Ty’n y Fron sy’n rhan o Ysgol Plas Brondyffryn. Ysgol Gynradd Sirol yw Ysgol Twm o’r Nant a sefydlwyd hi yn y Capel Mawr, Dinbych yn 1960. Symudwyd i lawr i’r safle presennol yn 1968. Ysgol Benodedig Gymraeg yw Ysgol Twm o’r Nant. Derbyniwn blant i’r dosbarth Meithrin yn y flwyddyn academaidd pan fyddant yn cyrraedd 4 oed, am 5 bore yr wythnos, er ein bod yn ffodus trwy gydweithio â’r Mudiad Ysgolion Meithrin, i fedru cynnig addysg llawn amser i’r rhai sy’n dymuno. Yn y cyfnod sylfaen Cymraeg yw iaith holl addysg y plant a chyflwynir Saesneg fel pwnc i’r plant ym Mlwyddyn 3.

Gofynnwn yn garedig i blant beidio cyrraedd yr ysgol cyn 08:45 gan na fydd aelod o staff ar y buarth i ofalu amdanynt. Os oes angen i ddisgyblion gyrraedd yr ysgol yn gynnar, mae Clwb Brecwast yr ysgol yn agor am 08:00.

Meithrin:
8:55y.b. - 11:30y.b.

Cyfnod Sylfaen:
8:55y.b. - 11:45y.b.
Oriau a dreulir yn dysgu'r plant: 21 awr 15 munud

Adran Iau: 
8:55y.b. - 12:15y.p.
Oriau a dreulir yn dysgu'r plant: 23 awr 40 munud

Derbynnir plant i'r Uned dan 5 i’r flwyddyn ysgol Meithrin am bum bore yr wythnos cyn belled â'u bod yn cyrraedd eu pedwerydd pen-blwydd yn ystod y flwyddyn, h.y. rhwng Medi 1af ac Awst 31ain. 
Yn yr un modd derbynnir plant yn llawn amser i'r Dosbarth Derbyn os ydynt yn cyrraedd pump oed cyn diwedd y flwyddyn addysgol. Gall rhieni sy'n ystyried anfon eu plant i'r ysgol drefnu ymweliad i dderbyn mwy o wybodaeth trwy gysylltu â'r 
Pennaeth ymlaen llaw. Rhaid i unrhyw gais am le yn Ysgol Twm o'r Nant gael ei wneud drwy Gwefan Sir Ddinbych. 

Trefnir cyfarfodydd i’r teuluoedd a’u plant sydd ar fin ymuno â’r dosbarth Meithrin yn nhymor yr haf cyn mis Medi. Yn ogystal â hyn yn ystod y cyfnod hwn hefyd gwahoddir rhieni plant newydd i ddod â'u plant i'r ysgol i dreulio ychydig o amser yn y Dosbarth Meithrin. Mae'r profiad yma heb amheuaeth yn helpu'r plant yn eu hawyrgylch newydd ar ddechrau eu gyrfa yn yr ysgol

Mae cyswllt rhyngom â'r Ysgolion Uwchradd yr ydym yn eu bwydo yn hanfodol bwysig er mwyn sicrhau parhad a hyrwyddo trosglwyddiant. Mae cydweithio agos rhyngom ag Ysgol Glan Clwyd, a bydd cyfle i’r plant ymweld ag Ysgol Glan Clwyd nifer o weithiau o Flwyddyn 5 ymlaen. Caiff y rhieni gyfle i ymweld â'r ysgol cyn y trosglwyddiant.

Presenoldeb ac Absenoldeb


Mae mynychu'r ysgol yn rheolaidd ac yn brydlon yn bwysig ond os gwelwch yn dda, peidiwch ag anfon eich plentyn yn rhy gynnar - dim cyn 8.00 i’r Clwb Brecwast. Os nad yw eich plentyn yn mynychu’r clwb cyn ysgol, yna disgwylir ef/hi yn yr ysgol ar ôl 8.45. Os yw eich plentyn i ffwrdd o'r ysgol gofynnwn i chwi gysylltu â'r ysgol drwy adael neges ffon neu bydd rhaid marcio'r gofrestr gydag absenoldeb diawdurdod. Yn unol â pholisi y Sir, ni chaniateir gwyliau yn ystod tymor yr ysgol. Os oes mwy na 10 diwrnod (20 sesiwn) o absenoldebau heb awdurdod, yna fe roddir cosb ‘cosb penodedig’. Anfonir rhestr o'r dyddiadau gwyliau i chi bob blwyddyn. Mae cyfraddau presenoldeb yn cael eu monitro gan y Pennaeth a’r Gwasanathau Cymdeithasol.

Os yw eich plentyn yn dioddef o unrhyw alergedd neu gyflwr meddygol yna gofynnwn i chi ein hysbysu cyn gynted ag y bo modd. Mae Staff yr ysgol yn derbyn hyfforddiant blynyddol ar y cyflyrau meddygol mwyaf cyffredin, gyda rhai yn derbyn hyfforddiant arbennigol fel 
sydd angen. Er mwyn osgoi oedi i blentyn ddechrau gofynnwn i chi roi gwybod cyn gynted a phosib am gyflyrau meddygol. 

Mae Nyrs yr ysgol yn galw'n rheolaidd ac mae croeso i rieni gysylltu â hi

Mae Awdurdod Iechyd Sir Ddinbych yn argymell y dylai plentyn sy'n dioddef o rai afiechydon aros adref o'r ysgol am leiafrif o - 

Brech yr Ieir - 5 niwrnod o ymddangosiad y frech
Y Frech Almaeneg - 6 niwrnod o ymddangosiad y frech
Y Frech Goch - 4 niwrnod o ymddangosiad y frech
Clwy'r Pennau - 5 niwrnod o ymddangosiad y chwydd

Fodd bynnag mae'n well cysylltu â'ch meddyg eich hun os nad yw eich plentyn yn teimlo'n dda. Pe digwydd i'ch plentyn fynd yn wael byddwn yn cysylltu gyda’r rhifau cysylltu ar y ffurflen gychwynol a roddir i rieni. Fe dderbynnir y wybodaeth angenrheidiol pan fydd y rhieni 
yn cwblhau Ffurflen A a'r Ffurflen Dderbyn pan fydd y plentyn yn cael ei dderbyn gyntaf i'r ysgol. 

Mae'n bwysig eich bod yn gadael i ni wybod os bydd y wybodaeth wedi newid ar unrhyw adeg yn ystod gyrfa ysgol eich plentyn.

Apwyntiad - mae Cyngor Sir Ddinbych yn hyrwyddo ffurflenni cadarnhau apwyntiadau gyda’r gwasanaeth iechyd. Os oes gan eich plentyn apwyntiad rhaid gadael i’r athro / athrawes dosbarth wybod.

Os yw yn rheidrwydd i’ch plentyn gael meddyginiaeth, rhaid llenwi’r ffurflen ffisig briodol i roi caniatâd i staff yr ysgol ei roi. Mae problem genedlaethol gyda llau pen ac rydym yn argymell fod pob rhiant yn archwilio gwallt eu plant yn rheolaidd.

Lleolir blychau Cymorth Cyntaf yn y neuadd ac ym mhob briws. Cofnodir damweiniau ac os oes unrhyw amheuaeth ynglŷn â chyflwr plentyn ar ôl damwain, anfonwn am y rhieni neu awn â’r plentyn i’r Inffirmari yn Ninbych. Byddwn yn cysylltu gyda rhieni yn dilyn unrhyw anaf i’r pen. 

Ffisig / Moddion - Nid oes rheidrwydd ar unrhyw athro i drin ffisig na’i gyflwyno i blant os ydynt yn anfodlon gwneud hynny. Mae ffurflen briodol ar gael i ofyn i athro roi ffisig i blentyn.

Taliadau i'r Ysgol


Cyfieithiad i ddod yn fuan...

Meals are prepared at the school. There is a formal meal for the children and milk and fruit/snacks will be available during the morning playtime, for the foundation learning period only - this can be paid for through Parent Pay. Pupils in the junior section are welcome to bring a healthy snack to school.

School lunch is now free for all school pupils (except Nursery children). However it is important that if you are entitled to claim for financial support that you do this via the Denbighshire website. Claims can be made for support to buy school uniforms etc.

This policy is based on Welsh Government Policy. It was decided to charge children who receive instrumental lessons from the tutors of the Denbighshire Music Coopretive and a contribution is also requested from families towards educational trips related to class work. As a school we make sure that 
costs do not become too much from term to term and do our best to ensure that we do not put financial burdens on families.

When the class makes crafts or cooks occasionally, donations are requested to match the cost. There is no charge for swimming as we use the local Swimming Pool.

The school's Charging Policy can be seen for more details.

An online system called 'Parent Pay' is used for almost all school payments.
We encourage parents to use this system.

The school has childcare clubs which are Breakfast Club 8:00-8:45, Meithrin Mwy (11:30 - 3:00) and Clwb Twm (3:00 - 5.30). All club payments will go through Parent Pay. You can claim 30 hours of free childcare with Meithrin Mwy and Clwb Twm and claim separate payments. For more details about the 
clubs contact us at the school.

Gwisg Ysgol


Mae gwisgo'r wisg ysgol yn rheol ysgol. Disgwylir i bob plentyn ei gwisgo yn ystod gweithgareddau cyhoeddus.

  • Sgert Ddu (Gellir wisgo teits du neu glas)
  • Trowsus neu Siorts du
  • Crys polo melyn gyda logo'r ysgol
  • Ffrog Haf Glas a Gwyn yn ystod yr Haf
  • Siwmper las Ysgol Twm o'r Nant
  • Esgidiau Tywyll
  • Gwallt wedi ei glymu/blethu yn ol
  • Clustdlysau Styd bychain

Mae pob eitem o’r wisg ysgol ar gael o School Shop ar yr ystad ddiwydiannol. 

Gellir brynnu bag darllen drwy parent pay ac ei gasglu o 'r dderbynfa. Rydym wedi dechrau darparu cyfleoedd i rhieni gyfnewid dillad wrth dderbynfa'r ysgol.

  • Siorts du – crys T gwyn (plaen)
  • Trainers i chwaraeon y tu allan.

Ni fydd angen esgidiau/trainers i wersi gymnasteg yn y neuadd.

Nid yw clustdlysau yn rhan gydnabyddedig o'r wisg ysgol a byddai'n well gennym pe na fyddent yn cael eu gwisgo. Os ydynt, fodd bynnag, dylent fod yn ‘studs’ a dylid eu tynnu ar gyfer Addysg Gorfforol, chwaraeon neu wersi nofio yn unol â rheolau Iechyd a Diogelwch yr ysgol.