Clwb Brecwast
Mae Clwb Brecwast yr ysgol yn agor am 8.00y.b Dydd Llun – Gwener (yn ystod tymor ysgol yn unig) a redir gan aelodau staff cinio yr ysgol. Mae’r clwb yn cynnig amrywiaeth o fwydydd iachus fel brecwast i’r plant. Cant ddewis o dôst, grawnfwyd, crempogau, iogwrt, sudd a ffrwythau yn ddyddiol. Mae’r clwb ar gael ar gyfer disgyblion oed Derbyn hyd at Flwyddyn 6. Cost y clwb yw £2 y plentyn am ofal a brecwast rhwng 8.00y.b a 8.45y.b. Os bydd ail, trydydd, pedwerydd plentyn o’r un cartref yn mynychu bydd cost y clwb yn gostwng i £1 i bob un o’r plant yma.
Yn dilyn llond eu boliau o frecwast iachus mae’r plant yn mwynhau amrywiaeth o weithgareddau gan gynnwys gemau bwrdd, lliwio, posau a gemau ac yna cant eu tywys yn ddiogel i’r buarth neu dosbarthiadau am 8:45y.b. lle bydd eu hathrawon uned yn yr ysgol yn gyfrifol amdanynt wedi’r amser yma.
Manylion cyswllt – ciniotwm@yahoo.com