Uned dan 9
Croeso i dudalen yr uned dan 9. Mae ein huned wedi ei rhannu yn dri dosbarth sef Briallu, Bysedd y Cŵn a Pabi Cymreig, sydd yn gymysg o blant blwyddyn 3 a 4.
Ein nod yn yr adran ydy …
- Datblygu awyrgylch croesawus, hapus a diogel i bob plentyn.
- Datblygu pob dysgwr yn un llwyddiannus gan weithio i ’w llawn potensial.
- Datblygu parch a safon uchel o ymddygiad.
- Sicrhau dilyniant a pharhad ym mhrofiadau dysgu amrywiol pob plentyn.
- Annog pob plentyn i fod yn ddysgwr annibynnol, creadigol ac yn chwilfrydig.